17 Chwefror 2023
Parthed: Gohebiaeth ar 7 Rhagfyr 2022
Annwyl Mark
Diolch am eich llythyr dyddiedig 7 Rhagfyr 2022. Ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarparwyd, hoffem ofyn rhagor o gwestiynau. Yn benodol, gofynnwn am eglurhad pellach mewn perthynas ag ymgysylltu tramor a Memoranda Cyd-ddealltwriaeth, fel y nodir isod.
Ymgysylltu tramor
Rydym yn croesawu eich ymrwymiad i ddarparu adroddiadau misol i ni am bob ymweliad diplomyddol ac ymweliad gweinidogol dramor, gan ddechrau o fis Rhagfyr 2022.
Cawsom y neges e-bost gyntaf a oedd yn cynnwys rhestr o gyfarfodydd a oedd yn cwmpasu mis Rhagfyr 2022 a mis Ionawr 2023 ar 6 Chwefror 2023. Nodwn nad yw’r rhestr yn cynnwys rhai ymweliadau, na lefel y manylder, y rhoddwyd cyhoeddusrwydd iddynt ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Mae rhestr o enghreifftiau wedi'i hatodi i'r llythyr hwn. Gofynnwn fod pob cyfarfod Gweinidogol, gyda manylion yr hyn a drafodwyd, yn cael eu cynnwys yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen at dderbyn y rhestr ar gyfer mis Chwefror yn yr wythnosau nesaf. Byddai'r Pwyllgor hefyd yn croesawu pe baech yn cynnwys digwyddiadau rhyngwladol a gynhaliwyd gan gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n uniongyrchol gysylltiedig â chyflawni'r strategaeth ryngwladol.
Memoranda Cyd-ddealltwriaeth
Rydym yn croesawu eich ymrwymiad i gynnwys rhestr flynyddol o Femoranda Cyd-ddealltwriaeth fel rhan o’ch adroddiadau blynyddol ar weithgareddau swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru.
Nodwn, fodd bynnag, eich bod wedi cytuno i gyhoeddi rhestr mewn ymateb i geisiadau gan Aelodau o’r Pwyllgor hwn yn ystod tystiolaeth ym mis Mehefin 2022.[1]
Mae'r Pwyllgor o'r farn y byddai tudalen we bwrpasol o gymorth mawr i’r Aelodau, rhanddeiliaid a'r cyhoedd sydd â diddordeb yng nghysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Byddai hyn hefyd yn sicrhau bod rhagor o dryloywder nag a geir drwy ddarparu rhestr flynyddol untro sy’n rhoi cipolwg o’r sefyllfa ar adeg benodol, fel y cydnabyddir gan y Prif Weinidog.[2]
Felly, hoffem ailadrodd ein cais gwreiddiol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi a chynnal rhestr o Femoranda Cyd-ddealltwriaeth ar ei gwefan.
Rydym yn nodi tudalen we hygyrch Llywodraeth Cymru ar gyfer concordatau rhynglywodraethol, memoranda a chytundebau eraill rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Gofynnwn fod fformat tebyg yn cael ei ystyried ar gyfer ei rhaglenni rhyngwladol cyfatebol.[3]
Byddem yn ddiolchgar o gael ymateb i'r materion a godir yn y llythyr hwn erbyn 9 Mawrth 2023.
Yn gywir
Delyth Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor
Atodiad: Enghreifftiau o ymweliadau Gweinidogol a gyhoeddwyd ar y cyfryngau cymdeithasol, Rhagfyr 2022 – Ionawr 2023
Ymweliadau gweinidogion
Ymweliadau i mewn |
 GWEINIDOGION |
Rhagfyr 2022 |
|
07 Rhagfyr |
Cyfarfu'r Prif Weinidog ag Asiant Cyffredinol Québec. |
07 Rhagfyr |
(Trydariad Llywodraeth Cymru:) Bienvenue au Pays de Galles @LineRivardDG . Heddiw croesawodd y @PrifWeinidog Asiant Cyffredinol @QuebecUK i Gaerdydd. Buont yn siarad am y berthynas agos rhwng Cymru a Quebec, ein hieithoedd, y cryfderau ar draws ein sectorau a phwysigrwydd cydweithio rhyngwladol |
13 Rhagfyr |
Cyfarfu’r Prif Weinidog ag Uchel Gomisiynydd Namibia. |
|
|
Ionawr 2023 |
|
2 Ionawr |
Cyfarfu’r Prif Weinidog â Dirprwy Uchel Gomisiynydd India yn y derbyniad yng Nghaerdydd ar gyfer tîm hoci Cymru cyn eu taith i India i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd |
25 Ionawr |
Cyfarfu’r Prif Weinidog â Phennaeth Dirprwyaeth Catalwnia i’r DU ac Iwerddon. |
25 Ionawr |
(Trydariad Llywodraeth Cymru:) Croeso cynnes i Francesc Claret, pennaeth @Catalonia_UK, wrth iddo gwrdd â’r @PrifWeinidog heddiw. Buont yn trafod cyfleoedd i rannu’r hyn a ddysgwyd am incwm sylfaenol cyffredinol #UBI ac iaith, yn ogystal â thrafod cynllun cyfnewid i bobl ifanc rhwng Cymru a Chatalonia |
|
|
Ymweliadau allanol |
Gan WEINIDOGION |
Rhagfyr 2022 |
|
9-18 Rhagfyr |
Ymweliad y Gweinidog Newid Hinsawdd â Québec - presenoldeb yn COP15 a chyfarfodydd ar wahân gyda Gweinidog yr Amgylchedd, a'r Frwydr yn erbyn Newid Hinsawdd yn Québec a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol. |
12 Rhagfyr |
(Trydariad Llywodraeth Cymru:) Dechrau arni ddydd Sul yn #COP15 a chwrdd â chynrychiolwyr Cenedl Wampis - sef llywodraeth o bobloedd brodorol yn Amazon Periw. Yna siaradodd @JulieJamesMS yn y 7fed Uwchgynhadledd gan ddangos sut y gall gwledydd llai ddylanwadu ar drafodaethau ar fioamrywiaeth fyd-eang. https://twitter.com/wgcs_rural/status/994600433590132737 |
13 Rhagfyr |
(Trydariad Llywodraeth Cymru:) Mae Quebec yn bartner pwysig i Gymru, ac mae cydweithrediad cynyddol ar draws sawl sector. Cyfarfu’r Gweinidog Newid Hinsawdd @JulieJamesMS â @M_Biron yn ystod #COP15 i drafod cryfhau partneriaeth Cymru â Quebec ymhellach |
13 Rhagfyr |
(Trydariad Llywodraeth Cymru:) Roedd dydd Llun ym Montreal yn un prysur arall i'r Gweinidog Newid Hinsawdd @JulieJamesMS. O Gaerfyrddin i Gatalonia ac o Sir Fynwy i Montreal, buom yn ymdrin â phynciau gan gynnwys atal llifogydd a rheoli coedwigoedd. Gallwn ddysgu llawer oddi wrth ein gilydd! https://twitter.com/wgcs_rural/status/994600433590132737 |
14 Rhagfyr |
Ymweliad Prif Weinidog Cymru â Llundain, ble y cyfarfu â Phenaethiaid Cenhadaeth yr UE (Llysgennad yr UE i'r DU a holl Lysgenhadon UE27), Llysgennad yr Unol Daleithiau a Llysgennad Japan. |
14 Rhagfyr |
(Trydariad Llywodraeth Cymru:) Bore ma fe wnaeth y @PrifWeinidog gwrdd â @PedroSerranoEU yn Llundain. Roedd y trafodaethau'n cynnwys ymgysylltiad Cymru â rhanbarthau Ewropeaidd a’i rhan mewn rhwydweithiau allweddol, fel @Atlantic_Arc a @VI_Brwsel |
14 Rhagfyr |
(Trydariad Llywodraeth Cymru:) Wedi hynny, rhoddodd y @PrifWeinidog anerchiad gerbron Penaethiaid Cenhadaeth yr UE @EUdelegationUK yn Llundain. Soniodd am ein gwerthoedd cyffredin, yr heriau cyffredin, a phwysigrwydd cydweithio. Rydym wedi ymrwymo i gryfhau ein partneriaethau â gwladwriaethau, rhanbarthau a rhwydweithiau’r UE |
14 Rhagfyr |
(Trydariad Llywodraeth Cymru:) Mae 2022 yn nodi 50 mlynedd buddsoddiad o Japan yng Nghymru. Ymunodd y @PrifWeinidog â’r Llysgennad Hayashi i ddathlu’r garreg filltir hanesyddol hon @JAPANinUK, ac i edrych ymlaen at gyfleoedd yn y dyfodol i gryfhau’r berthynas rhwng ein gwledydd. |
14 Rhagfyr |
(Ail-drydariad neges y Llysgennad Pwylaidd gan Lywodraeth Cymru:) Cyfarfod gwych rhwng Penaethiaid Cenhadaeth yr UE â Phrif Weinidog Cymru @MarkDrakeford, pan fu trafodaeth am gysylltiadau economaidd a diwylliannol. Yn ddiolchgar i Gymru am ddangos didwylledd tuag at ddinasyddion a busnesau’r UE. Gobeithio y gall y Prif Weinidog ymweld â Gwlad Pwyl yn fuan! |
14 Rhagfyr |
(Ail-drydariad neges Llysgennad yr Almaen gan Lywodraeth Cymru:) Cyfarfod ardderchog gyda Phrif Weinidog Cymru @MarkDrakeford ar yr economi agos a chysylltiadau diwylliannol â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru yn agored i ddinasyddion a busnesau yr UE, ac hefyd o ran myfyrwyr drwy’r rhaglen Taith. |
14 Rhagfyr |
(Trydariad Llywodraeth Cymru:) I gloi ei ymweliad â Llundain, cyfarfu’r @PrifWeinidog â Jane Hartley, Llysgennad yr Unol Daleithiau @USAmbUK. Roedd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar ein gwaith i hyrwyddo Cymru yn yr UDA a’r cyfraniad sylweddol y mae buddsoddiad America yn ei wneud i economi Cymru |
16 Rhagfyr |
(Trydariad Llywodraeth Cymru:) Roedd yn brysur iawn ddoe yn #COP15 lle bu @JulieJamesMSG yn cynnal cyfarfod gwych gyda @ScotGovNetZero a @ParksCanada. Roedd sgyrsiau am goed gyda Christian Messier o @CEF_CFR. Derbyniwyd cwestiynau ym Mhafiliwn Rio. Trafodwyd grym y rhanbarthau llai yn cydweithio gyda @CharetteB. https://twitter.com/wgcs_rural/status/994600433590132737 |